Cofnodion Cyfarfod Blynyddol
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol a Heddwch
cynhaliwyd y cyfarfod yn Ystafell Briffio’r Cyfryngau, y Senedd,
29 Ionawr 2014 am 12.00 o’r gloch
1 Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod diwethaf.
2 Materion yn codi – bydd pob eitem yn cael ei thrafod fel rhan o’r agenda.
3 Ethol swyddogion (am y 12 mis nesaf)
Bydd Bethan Jenkins a Christine Chapman yn cadeirio’r Grŵp Trawsbleidiol ar y cyd, a bydd John Cox yn gweithredu fel Ysgrifennydd.
Yn y cyfarfod, mynegwyd gwerthfawrogiad am waith Jane Harries fel cyd-ysgrifennydd yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, a chytunwyd y dylai barhau fel aelod o’r Grŵp.
4 Cyllid – nid oes gan y Grŵp incwm na gwariant. Rhoddwyd caniatâd i’r Ysgrifennydd chwilio am arian o ffynonellau annibynnol, i dalu costau unrhyw gyfarfodydd agored a gaiff eu cynnal.
5 Rhaglen o gyfarfodydd agored
a) Roedd Adam Johannes wedi ysgrifennu atom yn awgrymu enw unigolyn i siarad am Balestina ym mis Chwefror neu fis Mawrth, a derbyniwyd ei gynnig.
b) Nododd John Cox fod cynhadledd ryngwladol i gael ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Mehefin, am ffyrdd anfilwrol o ddatrys anghydfodau, a chytunwyd y dylai John Cox ofyn i’r trefnwyr drefnu bod siaradwr yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol.
c) Bydd Bethan Jenkins yn gwahodd Joe Glenton i siarad â’r Grŵp Trawsbleidiol ym mis Hydref neu fis Tachwedd, i sôn am ddewisiadau eraill i Trident.
6 Unrhyw fater arall
Cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am bob pwnc a drafodwyd yn y cyfarfodydd blaenorol.